Website Logo
Translation for: 2024 - Mawrth
2024 - Mawrth

1

Rhifyn 12

Issue 12

Cylchgrawn y gwanwyn

Spring magazine

Sticeri

Stickers

Storïau

Stories

Lliwio

Colouring

Creu

Creating

2

Cystadlaethau a llawer mwy…

Competitions and much more…

3

Cylchgrawn….ydy hwn.

This is .....'s magazine.

4

Stori

Story

Diwrnod nofio

Swimming day

1. Ar wely Cyw roedd ei siwt nofio, gogyls, bandiau braich a thywel gwyrdd newydd yn barod i fynd i’r bag. Roedd hi’n ddiwrnod mynd i nofio heddiw.

On Cyw's bed were her swimsuit, goggles, armbands and her brand new green towel ready to go into her bag. They were going swimming today.

2. Roedd pawb o’r criw yn hoffi nofio. Roedd Plwmp yn hoffi sblasio a Jangl yn hoff i plymio.

All of them enjoyed swimming. Plwb liked to splash, and Jangle liked to dive.

3. Roedd gan Llew gogyls doniol ac roedd Triog yn hoffi ymlacio ar yr ochr.

Llew had funny goggles, and Triog was enjoying relaxing on the side.

4. Roedd Bolgi a Deryn wedi dod â phêl i’r pwll nofio ac roedden nhw yn ei tharo’n uchel o’r dŵr.

Bolgi and Deryn had bought a ball to the swimming pool, and they were throwing it high out of the water.

5

5. Ond pan ddaeth hi’n amser sychu a newid, roedd gan Cyw broblem. Allai hi ddim dod o hyd i’w thywel newydd. Doedd ei thywel ddim yn ei bag a doedd neb arall yn ei ddefnyddio.

But when time came to dry and change, Cyw had a problem. She couldn't find her new towel. The towel wasn't in her bag, and nobody else was using it either.

6. Tywel melyn oedd gan Plwmp a Deryn. Tywel glas gan Llew a Bolgi a thywel coch gan Jangl a Triog.

Plwmp and Deryn had yellow towels. Bolgi and Llew had blue ones, and Jangl and Triog had red ones.

7. Ond ble roedd y tywel gwyrdd? Doedd dim sôn amdano yn y locer newid chwaith.

But where was the green towel? There was no sign of it in the changing locker either.

6

8. Roedd Cyw yn wlyb ac yn oer. Cafodd fenthyg tywel melyn Deryn i sychu. “Diolch,” meddai Cyw.

Cyw was wet and cold. She borrowed Deryn's yellow towel to dry. "Thank you" said Cyw.

9. Roedd Cyw ychydig bach yn drist ar y ffordd adref. Roedd hi wedi colli ei thywel newydd hardd.

Cyw was a little sad on the way home. She had lost her new pretty towel.

10. Ond pan gyrhaeddodd adref, beth oedd ar ei gwely wedi ei blygu’n daclus? Y tywel gwyrdd!

But when she arrived home, what was on her bed folded nicely? The green towel!

7

Dot i ddot

Dot-to-dot

Wyt ti'n gallu cysylltu'r dotiau a lliwio'r llun?

Can you join the dots and colour the picture?

Rho sticer yma

Put a sticker here

8

Marcio

Marking

Wyt ti'n gallu defnyddio paent gwyrdd a blaen dy fysedd i greu dail ar y goeden yma?

Can you use green paint and your finger tips to put leaves on this tree?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Helô, Bolgi ydw i.

Hello, I'm Bolgi.

9

Creu

Create

Mae Cyw a Cati wrth eu bodd yn dysgu am ein byd bach ni. Maen nhw'n edrych ymlaen at Ddydd Sant Padrig. Beth am wneud coblyn gan ddefnyddio olion llaw?

Cyw and Cati lave learning about our little world. They are looking forward to St Patrick's Day. Shall we make an elf with hand prints?

Peinitia dy fysedd yn oren

Paint your fingers orange.

Peintia gledr dy lawn yn lliw croen

Paint the palm of your hand skin colour.

Rho fotymau fel llygaid

Place buttons as eyes.

Peintia het werdd i'r coblyn

Paint a green hat on your elf.

10

Pos

Puzzle

Wyt ti'n gallu helpu Ben Dant i gasglu sbwriel o'r môr?

Can you help Ben Dant to collect rubbish from the sea?

11

Tynnu llun

Drawing

Wyt ti'n gallu tynnu llun ohonot ti a dy ffrindiau yn chwarae yn y parc?

Can you draw a picture of you and your friends palying in the park?

Sawl pêl wyt ti'n gallu ei gweld?

How many balls can you see?

12

Ffurfio

Forming

Mae gan Bledd a Cef ffrind newydd. Wyt ti'n gwybod beth ydy e?

Bledd and Cef have a new friend. Do you know what it is?

crocodeil

crocodile

Wyt ti'n gwybod? Mae crocodeiliaid yn gallu dal eu gwynt o dan y dŵr am 1 awr.

Do you know? Crocodiles can hold their breath under water for an hour.

Wyt ti'n gwybod? Mae crocodeiliaid yn gallu gweld yn arbennig o dda, hyd yn oed yn ystod y nos.

Do you know? Crocodiles have excellent vision, even in the night.

13

Wyt ti'n gallu mynd dros y dotiau i greu wyneb i'r crocodeil?

Can you go over the dots to create the crocodile's face?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Wyt ti'n gwybod? Mae gan grocodeiliaid 24 o ddannedd miniog.

Do you know? Crocodiles have 24 sharp teeth.

14

Ffurfio

Forming

Wyt ti'n gallu helpu'r crwban i gyrraedd ei ffrindiau?

Can you help the turtle get to his friends?

llaw chwith

left hand

llaw dde

right hand

15

Creu

Create

Wyt ti'n gallu creu olion gyda dail meillion? Mae meillion yn enwog yn Iwreddon. 'Shamrock' maen nhw'n eu galw yno.

Can you create prints with clover leaves? Clovers are famous in Ireland. They are called 'shamrocks' there.

Beth am fynd gydag oedolyn i gasglu meillion?

How about going with an adult to collect clovers?

Rho'r dail ar ddarn o bapur/defnydd.

Put the leaves on a piece of paper/fabric.

Rho ddarn arall o bapur/defnydd ar ben i dail.

Put another piece of paper/fabric on top of the leaves.

Yn ofalus, defnyddia forthwyl i daro'r papur yn ysgafn.

Carefully, use a hammer to hit the paper lightly.

Coda'r papur - beth sydd wedi digwydd?

Lift the paper - what has happened?

Cyw y coblyn

Cyw the elf

16

Didoli

Sorting

Wyt ti'n gallu torri lluniau'r dillad a'u gosod yn y man cywir?

Can you put the pictures of the clothing in the correct plave?

tywydd gwlyb

wet weather

17

tywydd sych

dry weather

18

Tynnu llun

Drawing

Mae Griff wrth ei fodd yn tynnu llun. Wyt ti'n gallu tynnu llun broga?

Griff loves drawing pictures. Can you draw a frog?

Rho sticer yma

Put a sticker here

19

Torri a gludo

Cut and stick

Wyt ti'n gallu torri'r lluniau a'u gludo yn y drefn gywir?

Can you cut the pictures and put them in the correct order?

bore

morning

prynhawn

afternoon

nos

night

Cyw yn chwarae gyda'i ffrindiau.

Cyw playing with her friends

Cyw yn cysgu yn y gwely.

Cyw sleeping in bed

Cyw yn bwyta brecwast.

Cyw eating breakfast

20

Creu

Create

Wyt ti'n gallu gwneud cymeriad gwyrdd allan o glai a dail?

Can you make a green character from clay and leaves?

Mae gwyrdd yn lliw lwcus mewn rhai gwledydd.

Green is a lucky color in some countries.

Bydd angen:

You will need:

8 llwy fwrdd o flawn plaen

8 tbs plain flour

2 lwy fwrdd o halen

2 tbs salt

60ml o ddŵr cynnes

60ml of warm water

lliw bwyd gwyrdd

green food colouring

1 llwy fwrdd o olew llysiau

1tbs vegetable oil

21

Lliwio

Colouring

Wyt ti'n gallu lliwio pob 'g' yn wyrdd?

Can you colour each 'g' in green?

grawnwin

grapes

gwyrdd

green

glaw

rainbow

gitâr

guitar

22

Iechyd a lles

Health and well being

Wyt ti'n gallu...?

Can you ...?

cicio pêl?

kick a ball?

dal pêl?

catch a ball?

rowlio pêl

roll a ball?

taflu pêl?

throw a ball?

23

Lliwio

Colouring

Pa un yw dy hoff bêl di?

Which one is your favourite ball?

pêl glan y môr

seaside ball

pêl droed

football

pêl rygbi

rugby ball

pêl dennis

tennis ball

24

Sticeri

Stickers

25

Denfyddia dy sticeri ar y dudalen hon.

Use your stickers on this page.

26

Pa un sy'n wahanol?

Which one is different?

Wyt ti'n gallu helpu Elin i roi cylch o amgylch yr un sy'n wahanol?

Can you help Elin to put a circle around the one that is different?

gwyrdd

green

Rho gylch o gwmpas yr un sy'n wahanol. Pa un sy'n wahanol?

Put a cricle around the one that is different. Which one is different?

27

Cyfri

Counting

Sawl un weli di?

How many can you see?

28

Tynnu llun

Drawing

Wyt ti'n gallu helpu'r Cywion Bach i orffen y lluniau?

Can you help the Cywion Bach (Little Chicks) to finish the pictures?

cwmwl

cloud

haul

sun

29

enfys

rainbow

seren

star

30

Ymchwilio

Researching

Wyt ti'n gallu helpu Deian a Loli?

Can you help Dein and Loli?

Pan fydd glaw a heulwen gyda'i gilydd, mae enfys i'w gweld yn yr awyr. Beth am ymchwilio a chreu enfys dy hun?

When we have sun and rain together, a rainbow appears in the sky. How about researching and creating your own rainbow?

Bydd angen:

You will need:

potiau o ddŵr

pots of water

lliw bwyd

food colouring

papur gwyn

white paper

31

Creu

Create

Wyt ti'n gallu creu meillionen pedair deilen trwy brintio gyda phupur?

Can you create a four leaf clover by printing with a pepper?

Tybed ydy Griff yn llew yn gwybod ei bod hi'n ddiwrnod Sant Padrig ar Fawrth 17eg?

I wonder does Griff and Llew know that it's St Patrick's Day on March 17th?

32

Cyfri

Counting

Cyfra sawl un rywt ti'n gallu ei weld?

Count how many you can see.

Rho sticer yma

Put a sticker here

33

Lliwia'r nifer cywir o focsys.

Colour the correct number of boxes.

34

Ffurfio

Forming

Wyt ti'n gallu ffurfio llythyren 's'?

Can you form the letter 's'?

Rho sticer yma

Put a sticker here

seren

star

siglen

swing

saith

seven

sosban

saucepan

35

Cyfateb

Match

Rho gylch o amgylch yr un sydd yr un fath.

Put a circle around the one that's the same.

Rho sticer yma

Put a sticker here

brocoli

broccoli

pupur

pepper

afal

apple

moron

carrot

bresych

cabbage

Pa un yw dy hoff lysieuyn di?

Which one is your favourite vegetable?

36

Stori

Story

Barddoni gan Anni Llŷn

Poetry by Anni Llŷn

Edrycha ar y lluniau a'r geiriau, ac yna darllena'r stori. Bob tro y gweli di un o'r lluniau yn y stori, dyweda'r gair yn uchel.

Look at the pictures and words, and then read the story. Everytime you see a picture in the story, say the word aloud.

Roedd Cyw wedi cael gwaith cartref o'r ysgol.

Cyw had some homework from school.

Roedd yn rhaid iddi ysgrifennu cerdd am un o'i ffrindiau.

She had to write a poem about one of her friends.

Gallai hi ysgrifennu cerdd am Bolgi neu am Plwmp ... roedd ganddi lawer o ffrindiau.

She could write a poem about Bolgi or about Plwmp ... she had a lot of friends.

Yna, meddyliodd am Dewi'r Deinosor. "Dyna syniad da", meddai.

Then, she thought of Dewi the Dinosaur. "That's a godd idea", she said.

Lliw gwyrdd yw corff Dewi'r Deinosor. Ond gwyrdd fel beth?

Dewi the Dinosaur's body is green. But green like what?

Aeth i edrych drwy'r ffenest. Gwyrdd fel deilen, neu wyrdd fel porfa/gwair?

She went to look through the window. Grren like a leaf, or green like grass?

Gwelodd feic Bolgi a'r helmed yn hongian. Gwyrdd fel helmed beic Bolgi?

She saw Bolgi's bike, with the helmet hanging. Green like Bolgi's helmet?

Yna, sylwodd ar y llysiau oed yn tyfu yn yr ardd. Gwyrdd fel ciwcymbr?

Then, she noticed the vegetables growing in the garden. Green like cucumber?

Dewi'r Deinosor

Dewi the Dinosaur

gwyrdd

green

ffenest

window

deilen

leaf

porfa/gwair

grass

37

Gwyrdd fel bresych? Dechreuodd bol Cyw wneud sŵn, roedd hi eisiau bwyd!

Green like cabbage? Cyw's tummy started to make a noise, she wanted food!

Roedd hi eisiau hufen iâ. Gwyrdd fel hufena iâ mintys?

She wanted ice cream. Green like mint ice cream?

Aeth Cyw i eistedd. Gwyrdd fel y soffa?

Cyw sat down. Green like the sofa?

Roedd llawer o bethau gwyrdd, meddyliodd Cyw.

There were a lot of green things.

Ond doedd dim byd yr union yr un lliw â Dewi. Dewi'r deinosor, yn wyrdd fel ... deinosor, meddyliodd Cyw!

But there wasn't anything exactly the same colour as Dewi. Dewi the Dinosaur, greeen like ... a dinosaur, thought Cyw!

beic

bike

helmed

helmet

ciwcymbr

cucumber

bresych

cabbage

hufen iâ

ice cream

hufen iâ mintys

mint ice cream

soffa

sofa

38

Edrycha

Look

Beth sy'n wahanol rhwng y ddau lun?

What is different in the two pictures?

Rho sticer yma

Put a sticker here

39

Gêm

Game

Helfa Drysor

Treasure Hunt

Mae coblyn wedi cuddio pethau sgleiniog.

The elf has hidden shiny things.

Wyt ti'n gallu dod o hyd i bethau sgleiniog?

Can you find the shiny things?

Cofia chwilio ar ben, tu ôl, wrth ochr ac o dan pethau.

Remember to look on top, behind, by the side of and underneath things.

Oedolyn i guddio pethau sgleiniog

An adult to hide shiny things.

40

Siâp

Shape

Mae Bledd a Cef yn dysgu am siapiau.

Bledd and Cef are learning about shapes.

petryal

rectangle

Beth sy'n siâp petryal?

Which of these are rectangular shape?

pêl

ball

amlen

envelope

ffenest

window

bin

bin

ipad

ipad

seren

star

41

Lliwia'r petryalau.

Colour the rectangles.

gwyrdd

green

coch

red

glas

blue

melyn

yellow

Sawl ochr sydd gan betryal?

How many sides does a rectangle have?

Pa anghenfil sy'n mynd i fwyta'r petryalau?

Which monster is going to eat the rectangles?

42

Coginio

Cooking

Jeli Jangl

Jangl's Jelly

Bydd angen:

You will need:

dŵr twym

warm water

43

Beth am drio ychwanegu eich hoff ffrwyth i'r jeli?

How about adding your favourite fruit to the jelly?

44

Yr Oriel

The Gallery

Cyfle i Ennill Gwobr

Chance to Win a Prize

Am gyfle i ennill pecyn o adnoddau Cyw, gwna collage o bethau gwyrdd.Dyddiad Cau Ebrill 8fed, 2024.

For a chance to win a pack of Cyw resources, make a collage of green things. Closing date April 8th, 2024.

Enillydd y Gaeaf. Mae dy wobr ar ei ffordd atat.

Winter Winner. Your prize is on its way to you.

Mae eich lluniau’n wych!

Your photos are great!

45

Enw'r plentyn

Child's name

Oed

Age

Cyfeiriad

Address

Cod post

Postal code

Rhif ffôn

Phone number

E-bost

Email

Cofia am rifyn nesa Cylchgrawn Cyw ym mis Mehefin.

Remember about the next issue of the Cyw magazine in June.

Postiwch

Please post to

Peidiwch ag anghofio cynnwys enw ac oedran.

Don't forget to include name and age.

46

Trafod

Discuss

Pa rifau sydd ar goll?

What numbers are missing?

neidr

snake

Rho sticer yma

Put a sticker here

47

Adnoddau Addysgol Hwyliog Cyw

Cyw's Fun Educational Resources

Cardiau Lliw Llew

Cardiau Lliw Llew (Llew's Colouring Cards)

Dewch i ymuno â Llew yn ei fyd llawn lliw, i ddysgu sut i gymysgu lliwiau ac i greu rhai newydd sbon. Yn y pecyn ceir 12 cerdyn i helpu'ch plentyn ddod i adnabod lliwiau a 5 cerdyn cymysgu lliwiau.

Come and join Llew in his colourful world, to learn how to mix colours and create brand new ones. In the pack there are 12 cards to help your child get to know colours and 5 colour mixing cards.

Dominos Cyw a'i ffrindiau

Dominos Cyw a'i ffrindiau (Cyw and friends' Dominoes game)

Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come and play dominoes with Cyw and friends!

Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er mwyn eu gwneud yn addas i blant ifainc.

The set is printed on large cards to make them suitable for young children.

Dysgu gyda Cyw

Dysgu gyda Cyw (Learning with Cyw)

Llond gwlad o weithgareddau yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau ar gyfer yr ysgol a'r cartref.

Lots of activities in the company of Cyw and friends for school and home use.

Ceir yma 40 o daflenni lliwgar y gellir eu llungopio, a chyfle i ymarfer amrywiaeth o sgiliau wrth gwblhau'r gweithgareddau.

There are 40 colourful leaflets that can be photocopied, and an opportunity to practise a variety of skills when completing the activities.

Llyfr Sychu'n Sych

Llyfr Sychu'n Sych (Wipeable book)

Pecyn llawn 20 o ddarluniau lliwgar y gellir eu sychu'n lan a'u defnyddio dro ar ôl tro.

Full pack of 20 colourful illustrations that can be wiped clean and used time after time.

Gafaelwch mewn pin ysgrifennu a dewch i gwblhau'r gweithgareddau hwyliog yng nghwmni Cyw a'i chyfeillion.

Grab a pen and complete the fun activities in the company of Cyw and friends.

a llawer mwy @ https://pth.cymru/siop-cyw

and lots more @ https://pth.cymru/siop-cyw

48

Hwiangerdd

Nursery Rhyme

Pen, ysgwyddau, coesau traed, coesau traed

Head, shoulders, legs toes, legs toes

llygaid, clustiau, trwyn a cheg

Eyes, ears, nose and mouth

Beth am fynd i'r wefan i glywed recordiad o'r hwiangerdd, a chanu'r gân?

Why don't you go to the website to hear a recording of the nursery rhyme and sing the song?