Website Logo
Translation for: 2023 - June
2023 - June

1

Rhifyn 9

Rhifyn 9

Cylchgrawn Cyw

Cylchgrawn Cyw

Cyw a'i ffrindiau

Cyw and her friends

Chwerthin,Chwarae, Dysgu.

Play, Laugh, Learn.

Storïau

Stories

Lliwio

Colour in

Sticeri

Stickers

Creu

Create

Glud

Glue

Cystadleuaeth a llawer mwy...

Competition and much more...

Gellir ailgylchu'r cylchgrawn hwn

This magazine can be recycled

2

Ewch i wefan cylchgrawn Cyw i chwarae gemau addysgiadol a gwrando ar ganeuon sy’n cyd-fynd â rhifynnau’r cylchgrawn.

Visit the Cyw magazine website to play educational games and listen to the songs that accompany the magazine issues.

Edrycha beth sydd tu mewn

Look what’s inside

50 sticer

50 stickers

Storïau gan Anni Llŷn

Stories by Anni Llŷn

Creu a Phosau

Create and Puzzles

Coginio ...

Cookery...

a llawer mwy

and much more

Mae’r cylchgrawn hwn yn perthyn i

This magazine belongs to

Ysgrifenna dy enw yma

Write your name here

Oed

Age

Diddordeb mewn tanysgrifio? • 4 rhifyn y flwyddyn

Interested in subscribing? • 4 issues a year

Wedi ei bostio yn syth i’ch cartref

Posted directly to your home

£17 pth.cymru/tanysgrifio

£17 pth.cymru/tanysgrifio

Er mwyn sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael budd o Gylchgrawn Cyw, mae gwefan wedi ei pharatoi i gynnig crynodeb o’r cynnwys yn y Saesneg. Ceir mynediad i’r wefan trwy’r ddolen ganlynol.

In order for families who are learning Welsh to welcome Cyw and her friends into their home, additional support - including a translation of the content, pronunciation of key words and phrases in Welsh and a chance to hear the stories being read in Welsh - is available through the following link.

Dysgwyr

Welsh Learners

Oedolion

Adults

Mae Cyw yn unigryw. Cyw yw’r unig wasanaeth Cymraeg i blant dan oed ysgol. Mae S4C wedi ymrwymo i ddarparu rhaglenni gwreiddiol o safon uchel i blant ifanc hyd at chwech oed.

Cyw is unique; it is the only Welsh-language pre-school children’s service. S4C is committed to providing original, high-quality programmes for young children up to the age of six.

Ymuna â Cyw a’i ffrindiau ar S4C bob bore wrth i ni chwerthin, chwarae a dysgu.

Join Cyw and friends every morning on S4C as we play, laugh and learn.

3

Helo, fy enw i

Hello, my name

yw Cyw. Dw i’n tyfu blodau i’w rhoi i fy ffrindiau.

is Cyw. I grow flowers to give to my friends.

Wyt ti’n gallu dyfalu pa flodyn sydd i ba ffrind?

Can you guess which flower is for which friend?

4

Stori gan Anni Llyn

A story by Anni Llyn

Y Trampolîn

The Trampoline

1. Un diwrnod braf roedd Cyw yn edrych drwy’r ffenestr yn aros i rywbeth gyrraedd. Roedd hi wedi archebu rhywbeth i’r ardd. Doedd Cyw ddim wedi dweud wrth y lleill beth oedd hi wedi archebu. Roedd Bolgi’n torri ei fol eisiau gwybod. “Rho gliw i ni Cyw!” meddai.

1. One fine day Cyw was looking through the window waiting for something to arrive. She had ordered something for the garden. Cyw hadn't told the others what she had ordered. Bolgi wanted to know. "Give us a clue Cyw!" he said.

2. “Mae’n fawr,” meddai. Meddyliodd Bolgi am lithren fawr. “Na... nid llithren!” meddai Cyw.

2. “It's big,” she said. Bolgi thought of a big slide. “No... not a slide!” said Cyw.

“Mae’n las,” meddai. Meddyliodd Bolgi am bwll dŵr. “Na... nid pwll dŵr,” meddai Cyw.

"It's blue", she said. Bolgi thought of a pool of water. "No... not a pool of water," said Cyw.

3. “Mae’n siâp cylch,” meddai wedyn. Meddyliodd Bolgi am chwyrligwgan. “Na... nid chwyrligwgan,” meddai Cyw.

3. “It's shaped like a circle,” she then said. Bolgi thought of a merry-go-round. "No... not a merry-go-round," said Cyw.

“Mae’n hwyl,” meddai. Meddyliodd Bolgi am si-so. “Na... nid si-so,” meddai Cyw.

"It's fun," she said. Bolgi thought of a see-saw. "No... not a see-saw," said Cyw.

5

4. Yn sydyn, clywodd Cyw a Bolgi sŵn corn. Bîp! Bîp! Roedd yna lori wedi cyrraedd. Bagiodd y lori i’r ardd a dadlwytho’r sypreis. Rhedodd Bolgi a Cyw allan i weld.

4. Suddenly, Cyw and Bolgi heard the sound of a horn. Beep! Beep! A truck had arrived. He backed the truck into the garden and unloaded the surprise. Bolgi and Cyw ran out to see.

5. Doedd gan Bolgi ddim syniad beth oedd o. Roedd o’n fawr, yn las ac yn siâp cylch.

5. Bolgi had no idea what it was. It was big, blue and circular.

6. “Tyrd Bolgi,” meddai Cyw gan ddringo i ganol y cylch. Dilynodd Bolgi hi. “Beth nawr?” holodd gan edrych yn hurt arni.

6. "Come on Bolgi," said Cyw climbing into the middle of the circle. Bolgi followed her. "What now?" he asked looking at her with astonishment.

6

7. “Neidio a sboncio!!” meddai Cyw gan neidio i’r awyr. Wrth iddi lanio cafodd Bolgi ei daflu i’r awyr. “Trampolîn ydi o Bolgi!!” Doedd Bolgi erioed wedi gweld trampolîn o’r blaen. Roedd Cyw yn iawn, roedd yn fawr, yn las, yn gylch ac yn llawer iawn o hwyl!!

7. “Jump and bounce!!” said Cyw, jumping in the air. As she landed, Bolgi was thrown into the air. "It's a trampoline, Bolgi!!" Bolgi had never seen a trampoline before. Cyw was right, it was big, blue, round and a lot of fun!!

Beth wyt ti’n hoff i ei wneud yn yr ardd? Tynna lun.

What do you like to do in the garden? Take a picture.

7

Torri a Gludo

Cut and Paste

Wyt ti’n gallu torri’r trychfilod a’u gosod yn eu cynefin?

Can you cut out the insects and place them in their habitats?

Rho sticer yma

Put a sticker here

gwe

a web

blodyn

a flower

deilen

a leaf

pridd

soil

cwch gwenyn

a beehive

pili-pala/ iâr fach yr haf

a butterfly

corryn/pry cop

a spider

mwydyn/pry genwair

a worm

lindysyn/siani flewog

a caterpillar

gwenynen

a bee

8

Creu

Create

Wyt ti’n gallu creu persawr newydd ar gyfer yr haf o’r enw Persawr Pili-Pala?

Can you create a new perfume for the summer called Butterfly Perfume?

Addurna dy botel bersawr

Decorate your perfume bottle

Bydd angen

You will need

powlen dŵr potel fach jwg llwy petalau blodau perlysiau (olew lafant/ rhosyn yn ddewisol)

a bowl water a small bottle a jug a spoon flower petals herbs (lavender/rose oil optional)

Arbrofa trwy gymysgu'r petalau gyda'r dwr.

Experiment by mixing the petals with the water.

Beth am wasgu'r petalau?

How about pressing the petals?

Beth sy'n digwydd i liw'r persawr?

What happens to the colour of the perfume?

Disgrifia'r arogl.

Describe the smell.

Pan fyddi wedi dod o hyd i'r cyfuniad perffaith ar gyfer y persawr, arllwysa'r persawr mewn i'r botel.

When you have found the perfect combination for the perfume, pour the perfume into the bottle.

Y cyfan sydd ar ôl yw creu label deniadol ar gyfer y persawr.

All that remains is to create an attractive label for the perfume.

Anfonwch lun o’ch persawr pili-pala at [email protected] ac efallai y byddwn yn ei gynnwys yn y rhifyn nesaf.

Send a picture of your butterfly perfume to [email protected] and we might include it in the next issue.

9

Wyt ti’n gallu rholio’r dis a lliwio’r fuwch goch gota?

Can you roll the dice and colour the ladybird?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Os nad oes un gyda ti, dyma un i ti ei greu.

If you don't have one, here's one for you to create.

Wyt ti’n gallu cyfri i chwech?

Can you count to six?

un dau tri pedwar pump chwech

one two three four five six

10

Cyfateb

Match

Wyt ti’n gallu helpu Triog i roi’r nifer gywir o betalau ar y blodyn gan ddefnyddio’r lliw cywir?

Can you help Triog put the correct number of petals on the flower using the correct colour?

Wyt ti’n gallu gosod y wenynen ar y lliw blodyn cywir?

Can you place the bee on the correct colour flower?

11

Tynnu llun

Take a picture

Wyt ti’n gallu gorffen y lluniau yma?

Can you finish these pictures?

Beth am liwio'r lluniau ar ôl i ti orffen?

Why not colour the pictures after you've finished?

Llew

Llew

chwilen

a beetle

buwch goch gota

a ladybird

pili-pala

a butterfly

Mae Bolgi wrth ei fodd yn tynnu lluniau trychfilod yn yr ardd. Pa un sydd ddim yn byw yn yr ardd?

Bolgi loves taking pictures of insects in the garden. Which one doesn't live in the garden?

12

Ffurfio

Form

Dyma Mili Malwoden. Wyt ti’n gallu helpu Jangl i ffurfio ‘m’?

This is Mili the Snail. Can you help Jangle form an 'm'?

malwoden

snail

moron

carrot

môr

sea

mefus

strawberries

melyn

yellow

mochyn

pig

13

Creu

Create

Mae Jangl yn hoff i garddio. Wyt ti’n gallu helpu Jangl i wneud peli plannu blodau gwyllt i ddenu creaduriaid i’r ardd?

Jangle likes to garden. Can you help Jangle make wildflower planting balls to attract creatures to the garden?

Bydd angen

You will need

casglu dail

to collect leaves

1 cwpan o gompost

1 cup of compost

1 cwpan o fflŵr/blawd

1 cup flour

1 pecyn o hadau blodau gwyllt

1 packet of wildflower seeds

Yn gyntaf, cymysga'r compost a'r fflŵr/blawd mewn powlen neu fwced.

Firstly, mix the compost and flour in a bowl or bucket.

Nesaf, cymysga'r hadau i'r compost a'r fflŵr/blawd yn ofalus.

Next, carefully mix the seeds into the compost and the flour.

Wedyn, ychwanegu ychydig o ddŵr ar y tro tan fod y cymysgedd yn glynu at ei gilydd.

Then, add a little water at a time until the mixture sticks together.

Rholia'r cymysgedd mewn i siâp sffêr.

Roll the mixture into a sphere shape.

Yn olaf, penderfyna ble sydd angen i ti osod y peli yn yr ardd (yn ddelfrydol ychydig cyn iddi lawio).

Finally, decide where you need to place the balls in the garden (ideally just before it rains).

14

Lliwio

Colour

Mae Cyw a’i ffrindiau wedi mynd â’u tedis allan am bicnic. Wyt ti’n gallu lliwio’r llun gan ddilyn y cod?

Cyw and his friends have taken their teddies out for a picnic. Can you colour the picture following the code?

Sawl tedi weli di?

How many teddy bears do you see?

Sawl cacen weli di?

How many cakes do you see?

Sawl afal weli di?

How many apples do you see?

coch

red

melyn

yellow

oren

orange

pinc

pink

brown

brown

brown tywyll

dark brown

llwyd

grey

15

Ailgylchu ac addurno

Recycle and decorate

Wyt ti’n gallu ailgylchu potel laeth/lefrith blastig a’i haddurno er mwyn creu can dŵr i ddyfrio’r blodau yn yr ardd?

Can you recycle a plastic milk bottle and decorate it to create a watering can to water the flowers in the garden?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Golcha’r botel laeth/lefrith.

Wash the milk bottle.

Gofynna i oedolyn dy helpu i dorri tyllau yn y clawr.

Ask an adult to help you cut holes in the cover.

Addurna'r botel

Decorate the bottle

Llenwa’r botel gyda dŵr a dyfrha’r blodau.

Fill the bottle with water, and water the flowers.

Beth am addurno'r can dŵr yma?

How about decorating this water jug?

16

Torri a gludo

Cut and paste

Wyt ti’n gallu helpu Plwmp i greu picnic iachus a blasus? Torra’r lluniau a’u gosod yn y fasged.

Can you help Plwmp create a healthy and tasty picnic? Cut out the pictures and place them in the basket.

Beth yw dy hoff fwyd di?

What is your favourite food?

Beth dwyt ti ddim yn hoffi ei fwyta?

What don't you like eating?

17

Iaith

Language

Norwy

Norway

Ble mae Norwy?

Where is Norway?

Sgandinafia

Scandinavia

Mae Sgandinafia yn cynnwys gwledydd Norwy, Sweden a Denmarc.

Scandinavia includes the countries of Norway, Sweden and Denmark.

Dyma 6 thudalen llawn gwybodaeth am Norwy.

Here are 6 pages full of information about Norway.

Mae 10 baner Norwy yn yr adran yma.

There are 10 Norwegian flags in this section.

yma’r un gyntaf - elli di weld y 9 sy’n cuddio?

Here's the first one - can you see the 9 that are hiding?

18

Iaith

Language

Diwrnod Mali

Mali's Day

Fy enw i yw Mali Haf Lockley a dw i’n ddwy oed. Dw i’n byw yn Lyngdal, dinas fach yn Norwy. Bydda i’n dechrau yn y Barnehage (Ysgol Feithrin Norwyeg) ym mis Awst eleni. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr!

My name is Mali Haf Lockley and I'm two years old. I live in Lyngdal, a small city in Norway. I will start at the Barnehage (Norwegian Nursery School) in August this year. I'm really looking forward to it!

Dw i fel arfer yn codi am 7 o'r gloch y bore.

I usually get up at 7 o'clock in the morning.

Dw i wrth fy modd gyda bowlen o grøt (uwd blasus) a llond gwydr o sudd oren i frecwast.

I love a bowl of grøt (delicious porridge) and a glass of orange juice for breakfast.

Bydda i’n ‘chwarae ysgol’ gyda Mamma yn y bore – dw i’n mwynhau tynnu lluniau, darllen, paentio a defnyddio sticeri.

I 'play school' with Mamma in the morning - I enjoy drawing, reading, painting and using stickers.

Am hanner awr wedi tri bob prynhawn, bydda i a fy nheulu yn bwyta Middag, sef pryd Norwyaidd. Tacos yw fy hoff fwyd. Maen nhw'n flasus!

At half past three every afternoon, my family and I eat Middag, a Norwegian meal. Tacos are my favorite food. They are delicious!

19

Dw i wrth fy modd yn mynd am dro i’r fjord.

I love going for a walk in the fjord.

Dw i’n dwlu ar chwarae ar y traeth ac edrych ar y pysgod bach yn y dŵr.

I love playing on the beach and looking at the little fish in the water.

Dyma fy hoff siglen yn y parc lleol.

This is my favourite swing at the local park.

Yn y gaeaf, does dim byd yn well gyda fi na chwarae yn yr eira!

In the winter, there's nothing I like more than playing in the snow!

Dyma fi yn yfed llaeth siocled ac yn bwyta bolle (bynen felys) flasus yn y caff i! Mmmm!

This is me drinking chocolate milk and eating a delicious bolle (sweet bun) in the café! Mmmm!

Rhaid gwneud swper i’r teganau hefyd … heb wneud gormod o lanast!

I have to make supper for the toys too… without making too much of a mess!

Rhaid brwsio dannedd yn dda cyn mynd i'r gwely - brwsio i fyny a brwsio i lawr!

I must brush my teeth well before going to bed - I brush up and brush down!

Dw i'n mwynhau darllen llyfrau Cymraeg a llyfrau Norwyeg cyn mynd i gysgu am 7 o'r gloch.

I enjoy reading Welsh books and Norwegian books before going to sleep at 7 o'clock.

Nos da!

Good night!

20

Iaith

Language

Helpa Cyw i ddysgu Norwyeg

Helpa Cyw to learn Norwegian

Heia!

Hi!

Ie

Yes

Hwyl fawr!

Goodbye!

Na

No

Os gweli di'n dda?

Please?

Diolch yn fawr

Thank you very much

Dyma faner Norwy. Fedri di ei liwio?

This is the Norwegian flag. Can you colour it?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Pa liwiau sydd ar y faner?

What colours are on the flag?

melyn

yellow

coch

red

gwyrdd

green

gwyn

white

pinc

pink

glas

blue

21

Ffaith Ddiddorol

Interesting Facts

22

Mae hi’n bwrw llawer o eira yn Norwy, a hi yw’r wlad orau am ennill medalau am sgïo yn y Gemau Olympaidd Gaeaf.

It snows a lot in Norway, and it's the top country for winning skiing medals in the Winter Olympics.

Mae dros 25,000 o geirw yn y wlad. Dyma’r math geirw sy’n tynnu sled Siôn Corn.

There are over 25,000 reindeer in the country. They're the kind of reindeer that pull Santa's sleigh.

Ar Fai 17, maen nhw’n dathlu eu diwrnod cenedlaethol ac mae pobl Norwy yn gwisgo’r wisg draddodiadol sef bunad neu festdrakt.

On May 17, they celebrate their national day and the people of Norway wear the traditional dress - bunad or festdrakt.

Daeth y Llychlynwyr o Norwy mewn cychod mawr i Gymru 1000 o flynyddoedd yn ôl.

The Vikings came from Norway in large boats to Wales 1000 years ago.

Mae caws gafr brown yn boblogaidd iawn yn Norwy. Mae’n felys fel caramel.

Brown goat's cheese is very popular in Norway. It's sweet like caramel.

Mae Goleuadau’r Gogledd yn goleuo’r awyr yn Norwy gyda lliwiau’r enfys yn y nos. Lliwia’r goleuadau trwy wneud y symiau yma:

The Northern Lights light up the sky in Norway with the colours of the rainbow at night. Colour the lights by doing these sums:

pinc

pink

glas

blue

melyn

yellow

porffor

purple

gwyrdd

green

23

Iaith

Language

Yn yr haf, dydy'r haul ddim yn machlud o gwbl mewn rhai rhannau o Norwy. Mae'r haul yn yr awyr ddydd a nos! Yn y gaeaf, mae hi’n dywyll drwy’r amser yng ngogledd Norwy, a dydyn nhw ddim yn gweld yr haul o gwbl am bron tair wythnos.

In the summer, the sun doesn't set at all in some parts of Norway. The sun is in the sky day and night! In winter, it's dark all the time in northern Norway, and they don't see the sun at all for almost three weeks.

Meddyliwch beth allwn ni eu gweld yn yr awyr yng Nghymru yn y dydd ac yn y nos.

Think what we can see in the sky in Wales during the day and at night.

dydd

day

nos

night

y ddau

both

enfys

rainbow

haul

sun

awyren

a plane

tylluan

owl

gwylan

seagull

sêr

stars

lleuad

moon

eira

snow

cymylau

clouds

24

Didoli

Sort

Wyt ti'n gallu rhoi'r lluniau yn y lle cywir?

Can you put the pictures in the right place?

Rho sticer yma

Put a sticker here

smotiog

spotted

streipiog

striped

mawr

big

bach

small

Rho gylch o amgylch y trychfilod.

Circle the insects.

25

Defnyddia dy sticeri ar y dudalen hon.

Use your stickers on this page.

26

Iechyd a Lles

Health and Wellbeing

Beth am fynd ar daith synhwyraidd yr haf gydag oedolyn?

Why not go on a sensory summer trip with an adult?

Pa greaduriaid welaist ti ar dy daith?

What creatures did you see on your journey?

Bydd angen

You will need

brigyn/ffon

twig/stick

gwahanol liwiau gwlân/bandiau elastig

different colours of wool/elastic bands

Bob tro y byddi di’n clywed rhywbeth, rho un lliw ar y brigyn/ffon.

Every time you hear something, put one colour on the twig/stick.

Bob tro y byddi di’n arogli rhywbeth, rho liw arall ar y brigyn/ffon.

Every time you smell something, put another colour on the twig/stick.

Gwna yr un peth pan fyddi di’n teimlo neu’n blasu rhywbeth.

Do the same when you feel or taste something.

Wedi i ti orffen, defnyddia’r brigyn i drafod dy daith synhwyraidd gydag eraill.

When you have finished, use the twig to discuss your sensory journey with others.

Beth am fynd ar daith synhwyraidd

Why not go on a sensory journey

i'r parc

to the park?

i'r traeth

to the beach?

i'r goedwig

to the forest?

Beth am greu casgliad o ddarnau pren o'r teithiau synhwyraidd?

Why not create a collection of wooden pieces from the sensory journeys?

27

Ffurfio

Form

Fedri di ysgrifennu enwau’r trychf ilod hyn sydd i’w gweld yn yr ardd?

Can you write the names of these insects that can be seen in the garden?

Dyma sut mae dal pensil yn gywir.

Here's how to hold a pencil correctly.

mwydyn

a worm

lindysyn

a caterpillar

gwenynen

a bee

corryn

a spider

Beth am fynd am dro gydag oedolyn i chwilio am y trychf ilod hyn? Rho dic wrth ymyl pob un welaist ti.

Why not go for a walk with an adult to look for these hidden objects? Put a tick next to each one you see.

28

Cyfri

Count

Wyt ti’n gallu helpu Llew i dynnu llun nifer cywir y smotiau sydd yn y bocs?

Can you help Llew draw the correct number of spots in the box?

29

Rho sticer yma

Put a sticker here

Torri a gludo

Cut and paste

Wyt ti’n gallu gosod y lluniau yn y man cywir?

Can you place the pictures in the right place?

Sawl petal sydd ar y blodyn?

How many petals are there on the flower?

Cylch bywyd pili-pala

The life cycle of a butterfly

wyau

eggs

pili-pala

butterfly

crysalis

chrysalis

lindysyn

caterpillar

Pa liw yw canol bob blodyn?

What colour is the centre of each flower?

30

Wyt ti’n adnabod pa ffrwythau yw rhain? Fedri di gyfateb y ffrwyth cyfan gydag hanner y ffrwyth?

Do you know which fruits these are? Can you match the whole fruit with half the fruit?

cyfan

whole

hanner

half

31

Creu

Create

Wyt ti’n gallu helpu Jangl a Deryn i greu gwesty trychfilod gan ailddefnyddio potel neu gan?

Can you help Jangl and Deryn create an insect hotel by reusing a bottle or can?

Bydd angen

You will need

potel/can gwellt brigau cardfwrdd papur

bottle/can straws twigs paper cardboard

côn pinwydd mwsog cortyn

cord moss pine cone

Cofia ofyn i oedolyn dorri twll yn y can/potel ar gyfer rhoi cortyn i hongian y gwesty

Remember to ask an adult to cut a hole in the bottle/can for the string

Llenwa’r botel/can gyda phethau sych a naturiol.

Fill the bottle/can with dry and natural things.

Rho'r gwesty i hongian ar frigyn neu fachyn yn yr ardd.

Hang the hotel on a branch or hook in the garden.

32

Beth am gadw dyddiadur o ba drychfilod sy'n hoffi'r gwesty?

Why not keep a diary of which insects like the hotel?

Tynnu llun

Take a picture

Wyt ti’n gallu helpu Triog i ddilyn y camau er mwyn tynnu llun pili-pala?

Can you help Triog follow the steps to draw a butterfly?

Pan fyddi di'n mynd am dro, cyfra sawl pili-pala weli di. Beth oedd eu lliw?

When you go for a walk, count how many butterflies you see. What colour were they?

33

Creu

Create

Fedri di greu creaduriaid yr ardd yn defnyddio dail, brigau, blodau a phethau naturiol?

Can you create garden creatures using leaves, twigs, flowers and natural things?

Rho sticer yma

Put a sticker here

Arbrofa wrth osod y dail a’r petalau i greu gwahanol greaduriaid. Cof ia dynnu llun cyn i’r gwynt chwythu’r cyfan i ffwrdd neu ludo’r darnau i greu collage.

Experiment with using the leaves and petals to create different creatures. Remember to take a picture before the wind blows it all away, or glue the pieces to create a collage.

Beth arall wyt ti’n gallu all ei greu gyda dail, brigau a phetalau?

What else can you create with leaves, twigs and petals?

Yn gyntaf bydd angen i ti fynd am dro i’r ardd i gasglu pethau naturiol. Cofia ofyn caniatâd cyn torri planhigion.

First you will need to go for a walk in the garden to collect natural things. Remember to ask permission before cutting plants.

34

Iechyd a lles

Health and well being

Beth am fynd tu allan i fwynhau sesiwn ioga ar thema'r ardd?

Why not go outside and enjoy a garden themed yoga session?

ioga

yoga

Fedri di fod yn goeden?

Can you be a tree?

Arhosa ar un goes, plyga’r ben-glin arall gan godi dy droed i bwyso ar dy goes arall. Sigla i’r ochr cyn newid i’r ochr arall.

Stand on one leg, bend the other knee and lift your foot to press on your other leg. Swing to the side before switching to the other side.

Fedri di fod yn froga?

Can you be a frog?

Gwna sgwat lawr ar dy bengliniau gan bwyso dy freichiau ar dy goesau gyda dy ddwylo yng ynghyd. Neidia fel broga.

Do a squat down on your knees, leaning your arms on your legs with your hands together. Jump like a frog.

Fedri di fod yn flodyn?

Can you be a flower?

Eistedda ar y llawr gan godi dy goesau gyda dy ddwylo.

Sit on the floor, raising your legs with your hands.

Bydd angen hen fat/tywel i roi ar y llawr

You will need an old mat/towel to put on the floor

Manteision ioga i blant

Benefits of yoga for children

Mae ioga a meddwlgarwch yn gallu bod yn llesol i blant yn emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol mewn amryw ffyrdd. Dyma rai ohonynt.

Yoga and mindfulness can be beneficial for children emotionally, mentally and physically in various ways. Here are some of them.

Mae ioga yn datblygu cryfder a hyblygrwydd mewn plentyn.

Yoga develops strength and flexibility in a child.

Mae ioga’n cyfoethogi sgiliau canolbwyntio a chofio plentyn.

Yoga enhances a child's concentration and memory skills.

Mae ioga’n datblygu hunan-werth plentyn.

Yoga develops a child's self-worth.

Mae ioga'n llesol wrth reoli emosiynau plentyn.

Yoga is beneficial in controlling a child's emotions

35

Cyngor gan goeden

Advice from a tree

Gallwch chi wneud y symudiadau yma tu fewn neu du allan, yn dibynnu ar y tywydd.

You can do these movements inside or outside, depending on the weather.

Fedri di fod yn bili-pala?

Can you be a butterfly?

Eistedda ar y llawr gyda chefn syth a dy draed yn cyffwrdd. Defnyddia dy goesau fel adenydd.

Sit on the floor with a straight back and your feet touching. Use your legs as wings.

Fedri di fod yn lindysyn?

Can you be a caterpillar?

Gorwedda ar dy fol gan godi dy ben at dy draed.

Lie on your belly, raising your head to your feet.

Fedri di fod yn hedyn?

Can you be a seed?

Penglinia ar yllawr gan ddod â dy dalcen ar y llawr.

Kneel on the floor, bringing your forehead to the floor.

Yn ystod yr haf gallwn chwarae pob math o gemau yn yr ardd.

During the summer we can play all kinds of games in the garden.

Pa un o’r rhain dwyt ti ddim yn gallu chwarae gyda fe yn yr ardd?

Which of these can't you play with in the garden?

36

Wyt ti'n gallu cyfri'r lluniau a chreu graff ohonynt?

Can you count the pictures and create a graph of them?

Graff

Graph

Rho sticer yma

Put a sticker here

37

Pos

Puzzle

Mae Cyw eisiau rhoi'r blodau o'r ardd i'w ffrindiau. Wyt ti'n gallu ei helpu i chwilio am yr offer garddio?

Cyw wants to give the flowers from the garden to his friends. Can you help her look for the gardening tools?

Faint o flodau weli di?

How many flowers do you see?

Faint o botiau blodau weli di?

How many flower pots do you see?

38

Stori

A story

Y Traeth gan Anni Llyn

The Beach by Anni Llyn

Edrycha ar y lluniau a'r geiriau, ac yna darllena'r stori. Bob tro y gweli di lun o'r lluniau yn y stori, dyweda'r gair yn uchel.

Look at the pictures and the words, and then read the story. Every time you see a picture in the story, say the word out loud.

bwced a rhaw

bucket and spade

trysor

treasure

esgid

shoe

sbectol haul

sunglasses

39

Roedd.....wedi mynd i'r traeth gyda..... Roedd hi am chwilio am..... Defnyddiodd y rhaw i dyllu. Yn y twll cyntaf, daeth o hyd i..... Yn yr ail dwll, daeth o hyd i....., yn y trydydd twll daeth o hyd i.....fawr. Roedd.....yn siomedig. Doedd rhain ddim yn..... Eisteddodd gyda'r....., y.....a'r.....o'i blaen heb wybod beth i wneud â nhw,.

.....had gone to the beach with..... She wanted to look for..... She used the spade to dig. In the first hole, she found a..... In the second hole, she found ....., in the third hole she found a big...... .....was disappointed. These were not..... She sat with the....., the..... and the..... in front of her not knowing what to do with them.

Yna, daeth Mei a.....heibio. "A-ha!" meddai, dyma fy.....Diolch.....! Yna, daeth Gwen y.....heibio. Doedd hi ddim yn hapus, roedd yr.....yn rhy llachar iddi. "Cymra'r.....yma" meddai..... "Diolch!" meddai Gwen gan ei gwisgo. Dim ond y.....oedd ar ôl erbyn hyn. Yn sydyn, cofiodd.....fod.....yn hoffi casglu cregyn. Aeth â'r.....yn ôl adra iddo. Roedd o wedi gwirioni! Roedd.....yn hapus. Efallai nad.....arferol oedd yn y tywod, ond roedd pob peth yn.....i rywun.

Then, Mei the.....passed by. "A-ha!" he said, this is my.....Thank you.....! Then, Gwen the.....passed by. She wasn't happy, the..... was too bright for her. "Take these..... " ...... said. "Thank you!" said Gwen putting them on. Only the..... was now left. Suddenly, ..... remembered.....that.....liked to collect shells. She took the......home to him. He was delighted! ......was happy. Even though the.......in the sand wasn't the usual kind, everything was someone's.......

cragen

shell

mwnci

monkey

gwdihw

owl

haul

sun

40

Coginio

Cooking

Picnic Perffaith

A Perfect Picnic

Mae Cyw a'i ffrindiau wrth eu bodd yn cael picnic yn yr ardd yn yr heulwen. Beth am i chi gael picnic yn yr ardd gyda'ch ffrindiau a'ch teulu? Mae Cyw a'i ffrindiau am ddangos i chi sut mae gwneud rhai o'u hoff fwyd picnic! Mwynhewch!

Cyw and her friends love having a picnic in the garden in the sunshine. How about having a picnic in the garden with your friends and family? Cyw and her friends want to show you how to make some of their favorite picnic food! Enjoy!

41

Brechdanau blasus Bolgi

Bolgi's delicious sandwiches

Bydd angen:

You will need:

bara

bread

menyn

butter

llenwad e.e., ham, caws, tiwna, jam

filling e.g., ham, cheese, tuna, jam

Beth am dorri'r frechdan yn hanner?

Why not cut the sandwich in half?

Beth am dorri'r frechdan yn chwarter?

Why not cut the sandwich into quarters?

42

Coginio

Cook

Pwdin Plwmp

Plwmp's Pudding

Bydd angen:

You will need:

bisgedi siocled

chocolate biscuits

iogwrt siocled

chocolate yogurt

losin mwydod

worm sweets

cwpanau

cups

Arllwysa’r iogwrt i gwpan plastig clir.

Pour the yoghurt into a clear plastic cup.

Torra'r bisgedi siocled yn ddarnau mân a'u rhoi ar ben yr iogwrt.

Cut the chocolate biscuits into small pieces and put them on top of the yoghurt.

Addurna'r top gyda losin mwydod/da-da pry genwair.

Decorate the top with worm sweets.

43

Buwch goch gota Llew

Llew's ladybird

Beth am ddefnyddio mafon yn lle mefus?

Why not use raspberries instead of strawberries?

Bydd angen:

You will need:

grawnwin gwyrdd a choch

green and red grapes

mefus

strawberries

llus

blueberries

siocled

chocolate

Beth am wneud creaduriaid eraill allan o ffrwythau gwahanol?

Why not make other creatures out of different fruits?

Oedolion: Anfonwch lun o'ch bwyd picnic ac efallai y byddwn yn ei gynnwys yn y rhifyn nesaf.

Adults: Send us a photo of your picnic food and we may feature it in the next issue.

Yr Oriel

The Gallery

Cyfle i Ennill Gwobr

Chance to Win a Prize

Am gyfle i ennill pecyn o adnoddau Cyw, tynna lun unrhyw greadur sy'n byw yn yr ardd. Dyddiad cau 30 Mehefin 2023.

For a chance to win a pack of Cyw resources, draw a picture of any creature that lives in the garden. Closing date 30 June 2023.

Enillydd Mawrth. Mae dy wobr ar ei ffordd atat.

March winner. Your reward is on its way to you.

Elisa Jones, 6 oed

Elisa Jones, 6 years old

Freya Kitchell, 5 oed

Freya Kitchell, 5 years old

Efa Jones, 3 oed

Efa Jones, 3 years old

Mae eich lluniau'n wych.

Your photos are great.

45

Enw’r plentyn:

Child's name:

Oed:

Age:

Cyfeiriad:

Address:

Côd post:

Postcode:

Rhif ffôn:

Phone number:

E-bost:

E-mail:

Cofia am rifyn nesaf o gylchgrawn Cyw ym mis Medi.

Remember the next issue of Cyw magazine in September.

Postiwch

Post to

Cyw,Peniarth,Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Cyw, Peniarth, University of Wales Trinity St David

E-Bost:

E-mail:

Peidiwch ag anghofio cynnwys enw ac oedran.

Remember to include name and age.

46

Wyt ti'n gallu labelu'r llun yma?

Can you label this picture?

Labelu

Label

petal

petal

coes

stem

deilen

leaf

gwreiddyn

root

Rho sticer yma

Put a sticker here

Pa liw yw'r petalau?

What colour are the petals?

Pa liw yw'r gwair/porfa?

What colour is the grass?

Pa liw yw'r gwreiddiau?

What colour are the roots?

Pa liw yw'r dail?

What colour are the leaves?

Pa liw yw'r awyr?

What colour is the sky?

47

Adnoddau Addysgol Hwyliog Cyw

Cyw's Fun Educational Resources

Snap Cyw a'i ffrindiau

Snap Cyw a'i ffrindiau (Cyw and friends' Snap game)

Dewch i chwarae snap gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come and play snap with Cyw and friends!

Cardiau Lliw Llew

Cardiau Lliw Llew (Llew's Colouring Cards)

Dewch i ymuno â Llew yn ei fyd llawn lliw, i ddysgu sut i gymysgu lliwiau ac i greu rhai newydd sbon. Yn y pecyn ceir 12 cerdyn i helpu'ch plentyn ddod i adnabod lliwiau a 5 cerdyn cymysgu lliwiau.

Come and join Llew in his colourful world, to learn how to mix colours and create brand new ones. In the pack there are 12 cards to help your child get to know colours and 5 colour mixing cards.

Dominos Cyw a'i ffrindiau

Dominos Cyw a'i ffrindiau (Cyw and friends' Dominoes game)

Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come and play dominoes with Cyw and friends!

Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er mwyn eu gwneud yn addas i blant ifainc.

The set is printed on large cards to make them suitable for young children.

Dysgu gyda Cyw

Dysgu gyda Cyw (Learning with Cyw)

Llond gwlad o weithgareddau yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau ar gyfer yr ysgol a'r cartref.

Lots of activities in the company of Cyw and friends for school and home use.

Ceir yma 40 o daflenni lliwgar y gellir eu llungopio, a chyfle i ymarfer amrywiaeth o sgiliau wrth gwblhau'r gweithgareddau.

There are 40 colourful leaflets that can be photocopied, and an opportunity to practise a variety of skills when completing the activities.

Llyfr Sychu'n Sych

Llyfr Sychu'n Sych (Wipeable book)

Pecyn llawn 20 o ddarluniau lliwgar y gellir eu sychu'n lan a'u defnyddio dro ar ôl tro.

Full pack of 20 colourful illustrations that can be wiped clean and used time after time.

Gafaelwch mewn pin ysgrifennu a dewch i gwblhau'r gweithgareddau hwyliog yng nghwmni Cyw a'i chyfeillion.

Grab a pen and complete the fun activities in the company of Cyw and friends.

a llawer mwy @ https://pth.cymru/siop-cyw

and lots more @ https://pth.cymru/siop-cyw

48

Hwiangerdd

Nursery Rhyme

Pry Copyn

Spider

Dringodd y pry copyn,

The spider climbed

fyny’r biben hir.

up the long pipe.

Glaw mawr a ddaeth a’i olchi nôl i’r tir.

The heavy rain came and washed it back to the land.

Yna daeth yr haul i sychu’r glaw i gyd.

Then the sun came to dry up all the rain.

A dringodd y pry copyn y biben ar ei hyd.

And the spider climbed all the way up the pipe.

Beth am fynd i’r wefan i glywed recordiad o’r hwiangerdd, a chanu’r gân?

What about going to the website to listen to a recording of the nursery rhyme, and sing the song?

cylchgrawn-cyw.peniarth.cymru/

cylchgrawn-cyw.peniarth.cymru/