Website Logo
Translation for: 2021 - December
2021 - December

1

Cylchgrawn y gaeaf

Winter magazine

Rhagfyr 2021

December 2021

Cyw a'i ffrindiau

Cyw and her friends

Sticeri

Stickers

Lliwio

Colouring

Storïau

Stories

Creu

Create

Cystadleuaeth a llawer mwy...

A competition and much more...

2

Mae'r cylchgrawn hwn yn perthyn i

This magazine belongs to

Ysgrifenna dy enw yma

Write your name here

Oed

Age

Edrycha beth sydd tu mewn

Look what's inside

50 sticer

50 stickers

Posau

Puzzles

Coginio bisgedi Dwynwen

Make Dwynwen biscuits

Storïau gan Anni Llŷn

Stories by Anni Llŷn

a llawer mwy

and lots more

3

Mae'n Noswyl Nadolig ac mae Cyw a'i ffrindiau i gyd yn glyd yn eu gwelyau. Fedri di ddarllen eu henwau?

It's Christmas Eve and Cyw and her friends are tucked up in their beds. Can you read their names?

Mae 10 het gynnes yn cuddio yn y cylchgrawn.

There are 10 winter hats hiding in the magazine.

Fedri di eu ffeindio?

Can you find them?

Pob hwyl!

Good luck!

4

1. Roedd hi bron yn Nadolig ac roedd ’na lawer o anrhegion o dan goeden Cyw a’i ffrindiau. Roedd Cyw wedi bod yn breuddwydio am gael pêl-droed newydd eleni. Un lliw coch a melyn.

It was almost Christmas and there were lots of presents under Cyw and her friends' tree. Cyw had been dreaming of getting a new football this year. A red and yellow one.

2. Roedd Bolgi a Cyw eisiau dyfalu pa anrheg oedd pêl newydd Cyw. Tyrchodd Bolgi yn y parseli lliwgar.

Bolgi and Cyw wanted ti guess which present was Cyw's new ball. Bolgi searched through the colourful parcels.

3. “Dyma ni! Hwn ydy o, dw i’n siwr!” meddai Bolgi gan ddal anrheg siap triongl. “Na,” meddai Cyw, “nid dyna siap pêl!”

Here we are! This is the one, I'm sure of it! said Bolgi, holding a triangle shaped gift. "No," said Cyw, "that's not the shape of a ball!"

5

4. Chwiliodd Bolgi unwaith eto a daeth â pharsel arall i’r golwg. “Dyma ni!” Anrheg siap sgwâr oedd ganddo’r tro hwn.

Bolgi searched once again and found another parcel. "Here we are!" He had a square shaped gift this time.

5. “Na,” meddai Cyw. “Rhaid i’r anrheg fod yn siap crwn.” Chwiliodd Cyw am barsel crwn y tro hwn.

No, said Cyw. "The present must be round shaped." Cyw looked for a circular present this time.

6. “Dyma ni,” meddai Cyw gan ddangos anrheg arall. Ond doedd hwn ddim yn iawn chwaith, doedd o ddim yr un siap a phêl er ei fod yn debyg.

Here we are, said Cyw, showing another gift. But this one wasn't right either, it wasn't the same shape as a ball, although it was similar.

7. “Gwranda,” meddai Bolgi wrth roi ei glust at yr anrheg siap cylch.Clywodd Cyw a Bolgi sŵn od yn dod ohono. “Tic-toc. Tic-toc.”

Listen, said Bolgi as he placed the round shaped gift next to his ear. Cyw and Bolgi could hear a strange sound coming from it. "Tick-tock. Tick-tock."

6

8.“Cloc yw hwn, nid pêl!” Chwarddodd Bolgi. Rhoddodd Cyw yr anrheg yn ôl yn ofalus.

This is a clock, not a ball! Bolgi laughed. Cyw carefully put the gift back down.

9. Roedd Cyw ychydig yn ddigalon wrth feddwl nad oedd pêl newydd o dan y goeden pan aeth i’w gwely ar Noswyl Nadolig.

Cyw was a little disheartened as she went to bed on Christmas Eve, thinking there wasn't a new ball under the tree.

10. Ond pan ddeffrodd yn y bore, roedd anrheg siap crwn ar waelod ei gwely gyda’i henw hi arno. “O diolch Sion Corn,” meddai’n hapus wrth neidio i’w agor. Roedd Cyw yn gobeithio cael pêl gyda lliwiau arbennig arni. Wyt ti’n cofio pa liwiau? Fedri di liwio’r bêl i Cyw?

But when she woke in the morning, there was a round present with ehr name on at the foot of her bed. "Oh thank you Santa Claus," she exclaimed happily as she jumped up to open it. Cyw had hoped to get a ball with special colours on it. Do you remember which colours? Can you colour in Cyw's ball?

7

Beth yw'r gwahaniaeth?

What's the difference?

Rho gylch o amgylch yr un sy'n wahanol.

Circle the one that's different from the others.

Nodyn ar gyfer oedolion. Mae'r gweithgaredd yn datblygu sgiliau arsylwi eich plentyn.

A note to adults. This activity develops your child's observation skills.

8

Chwilio

Look

Chwilia

Look!

dyn eira

snowman

coeden

tree

aderyn

bird

pluen eira

snowflake

9

hadau

seeds

bwrdd adar

birdtable

olion traed

footprints

llwynog/cadno

fox

10

Cyfri

Counting

Cyfra’r gwrthrychau ymhob blwch.

Count the objects in each box.

plu eira

snowflakes

angylion

angels

coed Nadolig

Christmas trees

robin goch

robin(s)

11

Paru

Pair

Fedri di baru'r siâp â'i gysgod drwy dynnu llinell rhwng y ddau?

Can you pair the shape with its shadow by drawing a line between the two?

dyn eira, carw, hosan

snowman, reindeer, stocking

Sawl cracer Nadolig weli di?

How many Christmas crackers can you see?

12

Lliwio

Colouring

Fedri di addurno'r goeden Nadolig?

Can you decorate the Christmas tree?

Lliwia bob cylch yn goch.

Colour each circle red.

Lliwia bob diamwnt yn borffor.

Colour each diamond purple.

Lliwia bob sgwâr yn oren.

Colour each square orange.

Lliwia bob triongl yn las.

Colour each triangle blue.

Sawl cylch weli di?

How many circles can you see?

Sawl diamwnt weli di?

How many diamonds can you see?

Sawl triongl weli di?

How many triangles can you see?

Sawl sgwâr weli di?

How many squares can you see?

13

Lliwio

Colouring

Fedri di addurno'r galon?

Can you decorate the heart?

Dydd Santes Dwynwen Hapus

Happy Saint Dwynwen Day

14

Dot i ddot

Dot to dot

Una'r dotiau i weld llun beth mae Llew wedi ei beintio.

Join the dots to see what Llew has painted.

Lliwia'r calonnau isod yn dy hoff liwiau.

Colour the hearts below in your favourite colours.

15

Torri a threfnu

Cut out and organise

Torra'r plu eira a'u gosod ar y cysgodion cywir.

Cut out the snowflakes and place them on the correct shadows.

16

Tynnu llun

Drawing

Pa siâp yw'r pwdin Nadolig?

Which shape is the Christmas pudding?

pwdin Nadolig

Christmas pudding

17

Pa fwyd dwyt ti ddim yn ei fwyta adeg y Nadolig?

Which food don't you eat at Christmas?

twrci, wy Pasg, mins peis

turkey, Easter egg, mince pies

18

Dilyn patrwm

Follow the pattern

Dyma hoff siwmper Nadolig Triog. Wyt ti'n gallu gorffen y patrwm ar bob llinell?

Here's Triog's favourite Christmas jumper. Can you finish the pattern on each line?

19

Tynnu llun

Drawing

Fedri di newid y cylch i greu portread o Siôn Corn?

Can you change the circle to create a picture of Santa Claus?

Cofia - wyneb, corff, dillad coch

Remember - face, body, red clothing

Faint o geirw sy'n tynnu sled Siôn Corn?

How many reindeer are pulling Santa's sled?

20

Tynnu llun

Drawing

Fedri di orffen y llun?

Can you complete the picture?

calon, pluen eira

heart, snowflake

21

anrheg, dyn eira

present, snowman

22

Lliwio

Colouring

Mae Cyw a'i ffrindiau yn glyd yn eu cartref. Pwy fedri di ei weld?

Cyw and her friends are snug in their home. Who can you see?

Jangl neu Deryn

Jangl or Deryn?

Plwmp neu Llew

Plwmp or Llew?

Bolgi neu Triog

Bolgi or Triog?

23

Pos

Puzzle

Fedri di helpu'r robin goch i gyrraedd y bwrdd adar?

Can you help the robin reach the bird table?

Rho gylch o amgylch y gadwyn bapur hiraf.

Put a circle around the longest paper chain.

24

Sticeri

Stickers

25

Nadolig Llawen

Merry Christmas

Defnyddia dy sticeri ar y dudalen hon.

Use your stickers on this page.

26

Edrych

Look

Beth sy'n wahanol rhwng y ddau lun?

What's different between the two pictures?

27

Llythrennau coll

Missing letters

Pa lythyren sydd ar goll? Rho'r sticer cywir ar ddechrau bob gair.

Which letter is missing? Place the correct sticker at the start of each word.

cracer, hosan, celyn, Siôn Corn

cracker, stocking, holly, Santa Claus

Faint o gardiau weli di'n hongian ar y llinyn?

How many cards can you see hanging on the string?

28

Tynnu llun

Drawing

Mae Siôn Corn a'i geirw wedi glanio! Fedri di dynnu llun ohonynt?

Santa Claus and his reindeer have landed! Can you draw a picture of them?

Sawl ffenest weli di yn nhŷ Cyw?

How many windows can you see in Cyw's house?

29

Cofia ychwanegu - gwisg goch i Siôn Corn, trwyn coch a chyrn i'r ceirw, barf a gwallt gwyn i Siôn Corn, sled â'i llond o anrhegion.

Remember to add - a red outfit for Santa, a red nose and antlers for the reindeer, white hair and a white beard for Santa, a sled full of gifts.

Rho'r sticer cywir ar liw bob un o ffenestri tŷ Cyw.

Place the correct colour sticker for each of Cyw's windows.

30

Tynnu llun

Draw a picture

Beth am roi'r rhain arni? papur lliwgar, papur sgleiniog, gliter

How about adding these? colourful paper, shiny paper, glitter.

31

Creu

Create

Fedri di helpu Plwmp i greu mins peis allan o fwd?

Can you help Plwmp to create mud mince pies?

Cofia dy fod yn gallu defnyddio - dail, pridd, cerrig mân

Remember you can use - leaves, soil, pebbles

Anfonwch lun o'ch delwedd i [email protected] ac efallai y byddwn yn ei gynnwys yn y rhifyn nesaf. Dyma luniau o'ch gwaith celf chi. Arbennig!

Send a picture of your creation to [email protected] and we might include it in the next issue. Here are pictures of your artwork. Fantastic!

Coron ddail

Leaf crown

Neidr ddail

Leaf snake

32

Lliwio

Colour

Lliwia'r llun yr un fath.

Colour the picture the same.

Lliwia'r tonnau'n wyrdd.

Colour the waves green.

Lliwia'r llinell igam-ogam yn goch.

Colour the zigzag line red.

Lliwia'r smotiau'n las.

Colour the spots blue.

33

Creu

Create

Blwyddyn newydd dda

Happy new year

Bydd angen : afal, brigau, dail bytholwyrdd, clofs neu gnau almwn

You will need : an apple, twigs, evergreen leaves, cloves or almonds

Cofia : Rho dri darn o bren ar waelod yr afal fel coesau, gosoda'r dail bytholwyrdd ar dop yr afal, addurna ochrau'r afal gyda'r clofs neu'r cnau almwn

Remember : Place three twigs in the bottom of the apple for legs, place the evergreen leaves in the top of the apple, decorate the sides of the apples with cloves or almonds.

Nodyn ar gyfer oedolion - Roedd creu perllan yn hen draddodiad yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn. Byddai’r plant yn eu cario o amgylch yr ardal wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i’w ffrindiau a’u cymdogion.

A note for adults - making a 'perllan' was an old Welsh tradition on the first day of the year. Children would carry them around the area as they wished their friends and neighbours a happy new year.

34

Ffurfio

Form

Ffurfia'r geiriau isod.

Form the words below.

sgarff

scarf

menig

gloves

het

hat

cot

coat

35

Ffurfio

Form

Fedri di liwio bob calon â 'c' arnyn nhw?

Can you colour each heart with 'c' on them?

Oedolion - Mae chwilio am y llythyren ‘c’ yn helpu eich plentyn i adnabod llythrennau.

Adults - looking for the letter 'c' helps your child to recognise letters.

Dydd Santes Dwynwen Ionawr 25ain

Saint Dwynwen's Day January 25th

Fedri di ffurfio 'c'?

Can you form a 'c'?

36

Penderfynwch pwy fydd yn chwarae fel Plwmp a phwy fydd yn chwarae fel Deryn.

Decide who will play as Plwmp and who will play as Deryn.

Chwaraewr 1

Player 1

37

Sut i chwarae?

How to play?

Cymrwch dro i rolio dîs

Take your turn to roll the dice

Ar dy dro di, cyfateba'r rhif a daflwyd i'r llun cywir.

On your turn, match the number you've thrown to the correct picture.

Os ydy'r llun hynny ar dy gerdyn bingo, lliwia'r llun.

If it's on your bingo card, colour the picture.

Y cyntaf i liwio'r lluniau i gyd sydd yn ennill.

The first to colour all the pictures is the winner.

2 chwaraewr

2 players

Bydd angen 1 dîs

You will need 1 dice

Chwaraewr 2

Player 2

38

Pos

Puzzle

Fedri di ddatrys y pos i weld beth yw'r gair?

Can you solve the puzzle to see what the word is?

Pa lysieuyn sy'n drwyn i'r dyn eira?

Which vegetable is the snowman's nose?

Beth sydd yn mynd o amgylch gwddw'r dyn eira?

What goes around the snowman's neck?

Beth sydd ar ben y dyn eira?

What's on the snowman's head?

Oedolion - Mae paru llun â’i lythyren cychwynnol yn helpu eich plentyn ddod i adnabod llythrennau.

Adults - Pairing a picture with its initial letter helps your child develop letter recognition.

39

Creu

Create

Fedri di helpu Llew i greu dyn eira?

Can you help Llew to create a snowman?

Rholia beli clai. Cysyllta’r peli. Gwna wyneb i’r dyn eira. Defnyddia frigau fel breichiau. Beth am roi botymau ar ei fol?

Roll balls of clay. Connect the balls. Make a face for the snowman. Use twigs as arms. How about putting buttons on his tummy?

Meddylia am enw i'r dyn eira.

Think of a name for your snowman.

Oedolion - Anfonwch lun o’ch delwedd i [email protected] ac efallai y byddwn yn ei gynnwys yn y rhifyn nesaf. Dyma eich wynebau clai chi. Diolch am rannu!

Adults - Send in a picture of your artwork to [email protected] and we might include it in the next issue. Here are you clay faces. Thanks for sharing!

40

Stori Plwmp

Plwmp's Story

Edrycha ar y lluniau a’r geiriau, ac yna darllena’r stori. Bob tro y gweli di un o’r lluniau yn y stori,dyweda’r gair yn uchel.

Look at the pictures and the words, and then read the story. Each time you see one of the pictures in the story, say the word out loud.

Roedd hi'n bwrw glaw ac yn oer iawn tu allan.

It was raining and very cold outside.

Roedd Plwmp wedi diflasu yn y tŷ.

Plwmp was bored in the house.

Beth allai o wneud?

What could he do?

Roedd wedi gwneud jig-so ond roedd un darn ar goll.

He had made a jig-saw but there was one piece missing.

Roedd wedi gwneud pabell yn yr ystafell fyw ond cwympodd y cyfan.

He had made a tent in the front room but it all fell down.

Aeth i'r gwely i ddarllen, ond roedd yn mynd yn gysglyd.

He went to bed to read, but he became sleepy.

Yn sydyn, sylwodd ar falŵn coch yn y gornel ac arno roedd llythyr bach yn dweud wrtho am ddilyn balŵnau.

Suddenly, he noticed a red balloon in the corner with a small letter attached.

glaw

rain

house

jig-so

jig-saw

pabell

tent

gwely

bed

balŵn coch

red balloon

41

Ath i ben y grisiau a gwelodd falŵn gwyrdd yn dweud wrtho am fynd i lawr y grisiau.

He went to the top of the stairs and saw a green balloon telling him to go downstairs.

Ar y gwaelod roedd balŵn melyn yn dweud wrtho am fynd i'r gegin.

At the bottom was a yellow balloon telling him to go to the kitchen.

Pan aeth i mewn i'r gegin cafodd sypreis mawr.

When he entered the kitchen he had a great surprise.

Roedd Deryn a gweddill y criw i gyd yno wedi paratoi te parti gyda chacen enfawr!

Deryn and all the gang were there, and they had organised a tea party and a gigantic cake!

Doedd heddiw ddim yn ddiwrnod diflas wedi'r cyfan, meddyliodd Plwmp.

Today wasn't a boring day after all, thought Plwmp.

llythyr

letter

balŵnau

balloons

grisiau

stairs

balŵn gwyrdd

green balloon

balŵn melyn

yellow balloon

cacen

cake

42

Bisgedi Dwynwen

Dwynwen biscuits

Bydd angen:

You will need:

1 cwpan o flawd plaen

1 cup of flour

1 cwpan o fenyn

1 cup of butter

1/2 cwpan o siwgwr eisin

1/2 cup of sugar icing

1/2 cwpan o flawd corn

1/2 cup of cornflour

rholbren

rolling pin

torrwr siap calon

heat shaped cutter

eisin a da da mân

icing and sprinkles

ffwrn

an oven

powlen

a bowl

tre coginio

a baking tray

Mae rhai ohonoch wedi dilyn y rysait yn rhifyn hydref yr hydref i greu afalau siocled. Edrychwch ar eich lluniau - mmm blasus!

Some of you have followed the recipe in the autumn issue to make chocolate apples. Here are your pictures - mmm delicious!

43

Nwy 5

Gas mark 5

Oedolion: Anfonwch lun o'ch bisgedi Dwynwen ac efallai y byddwn yn ei gynnwys yn y rhifyn nesaf.

Adults: Send us a picture of your Dwynwen biscuits and we might include it in the next issue.

44

Cyfle i Ennill Gwobr

A chance to win a prize

Am gyfle i ennill pecyn o adnoddau Cyw, tynna lun o Cyw a'i ffrindiau yn chwarae yn yr eira.

To be in with chance of winning a pack of Cyw resources, draw a picture of Cyw and her friends playing in the snow.

Dyddiad cau Ionawr 14eg 2022

Closing date January 14th 2022

Enillydd Hydref. Mae dy lun yn wych! Mae dy wobr ar ei ffordd atat.

Autumn Winner. Your picture is great! Your prize is on its way to you.

Yr Oriel

The Gallery

Mae eich lluniau'n wych!

Your pictures are great!

Rheolau Cystadleuaeth

Competition Rules

Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), Canolfan Peniarth, eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

The competition is open to all except for those employed by S4C, Boom Cymru (the Company), Canolfan Peniarth, their immediate families and companies directly involved with this competition.

Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.

Applicants must be under the age of 16 to compete.

I gystadlu mae'n rhaid e-bostio llun i [email protected]

Entrants must send a picture to [email protected]

Dewisir un enillydd gan y criw cynhyrchu o blith yr enwau sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau.

One winner will be chosen by the production crew from the entries received by the closing date and time.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth. Cyhoeddir enw'r enillydd yn y rhifyn nesaf ym mis Mawrth.

No late entries will be included in the competition. The winner will be named in the next magazine issue in March.

Bydd y wobr yn cael ei hanfon at yr enillydd.

The prize will be sent to the winner.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 14eg o Ionawr 2022.

The competition will close at midday on January 14th 2022.

Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr ac nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

No prizes may be exchanged and no cash alternative will be offered.

Mae penderfyniad Peniarth yn derfynol.

The decision of Peniarth is final.

Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.

No responsibility is taken for entries that fail to arrive.

Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

By contacting to compete in the competition, you agree to abide by these rules. The terms and conditions are laid out in accordance with the laws of Wales and England.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gystadleuaeth yna cysylltwch â Thîm Peniarth ar 01267676772 neu [email protected].

If you have any questions regarding the competition, contact the Peniarth Team on 01267676772 or [email protected].

Byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad i ddangos y lluniau hyn ar ddarllediad teledu, rhifyn Rhagfyr a gwefan Cyw.

We will contact you to obtain permission to show these pictures on S4C’s Cyw Service, the December issue of the magazine and on the Cyw website.

Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatad yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.

If we cannot obtain this permission, the picture will not be shown and will not be entered as part of the competition.

45

Enw'r plentyn

Name of child

Oed

Age

Cyfeiriad

Address

Côd Post

Postcode

Rhif ffôn

Phone number

E-bost

E-mail

Cofia am rifyn nesaf o gylchgrawn Cyw ym mis Mawrth.

Remember the next issue of the Cyw magazine will be out in March.

Postiwch

Post

Peidiwch ag anghofio cynnwys enw ac oedran.

Don't forget to include name and age.

46

Dilyn patrwm

Following a pattern

Fedri di ddilyn y llinellau yma i greu patrwm hyfryd ar y hosan?

Can you follow these lines to crete a lovely pattern on the stocking?

Beth am ei lliwio'n lliwgar hefyd?

How about colouring it in too?

47

Adnoddau Addysgol Hwyliog Cyw

Cyw's Fun Educational Resources

Snap Cyw a'i ffrindiau

Snap - Cyw and her friends

Dewch i chwarae snap gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come to play snap with Cyw and her friends!

Cardiau Lliw Llew

Llew's Colour Cards

Dewch i ymuno â Llew yn ei fyd llawn lliw, i ddysgu sut i gymysgu lliwiau ac i greu rhai newydd sbon. Yn y pecyn ceir 12 cerdyn i helpu'ch plentyn ddod i adnabod lliwiau a 5 cerdyn cymysgu lliwiau.

Come to join Llew in his colourful world, and learn how to mix colours to make brand new ones. The pack includes 12 cards to help your child recognise colours, and 5 colour mixing cards.

Dominos Cyw a'i ffrindiau

Dominoes - Cyw and her friends

Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come to play dominoes with Cyw and her friends!

Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er mwyn eu gwneud yn addas i blant ifainc.

The set is printed on large cards to make them suitable for the younger learners.

Dysgu gyda Cyw

Learning with Cyw

Llond gwlad o weithgareddau yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau ar gyfer yr ysgol a'r cartref.

A whole load of activities with Cyw and her friends, for the school and the home.

Ceir yma 40 o daflenni lliwgar y gellir eu llungopio, a chyfle i ymarfer amrywiaeth o sgiliau wrth gwblhau'r gweithgareddau.

40 colourful photocopiable sheets which a range of activities to practise every literacy skill.

Llyfr Sychu'n Sych

Dry Wipe Book

Pecyn llawn 20 o ddarluniau lliwgar y gellir eu sychu'n lan a'u defnyddio dro ar ôl tro.

A pack full of 20 colourful pictures that can be wiped clean and used time and time again.

Gafaelwch mewn pin ysgrifennu a dewch i gwblhau'r gweithgareddau hwyliog yng nghwmni Cyw a'i chyfeillion.

Grab a dry wipe pen and complete the fun activities with Cyw and her friends.

48

Dau gi bach yn mynd i'r coed, Esgid newydd ar bob troed; Dau gi bach yn dŵad adre wedi colli un o'u 'sgidie. Dau gi bach.

---