Logo'r Wefan
Cyfieithiadau
Cyfieithiad ar gyfer: 2024 - Mehefin
2024 - Mehefin

1

Rhifyn 13

Issue 13

Cylchgrawn yr haf

The summer magazine

Cyw a'i ffrindiau

Cyw and her friends

3

Cylchgrawn ... ydy hwn.

This is ...'s magazine

4

Stori

A story

Hwyl Fawr gan Anni Llyn

Goodbye by Anni Llyn

1. Un diwrnod, roedd Owi’r oen bach wedi dod i chwarae gyda Bolgi.

1. One day, Owi the little lamb had come to play with Bolgi.

Roedd y ddau wedi cyffroi’n lân.

They were both really excited.

2. Roedd Bolgi wedi cynllunio diwrnod gwych. Yn y bore, paentio wynebau ei gilydd.

2. Bolgi had planned a great day. In the morning, painting each other's faces.

3. Amser cinio, gwneud pitsas a chreu lluniau gyda’r llysiau.

3. Lunchtime, making pizzas and creating pictures with the vegetables.

4. Yn y prynhawn, chwarae pêl-droed yn yr ardd. Sgoriodd Owi’r gôl orau erioed!

4. In the afternoon, playing football in the garden. Owi scored the best goal ever!

5. Ar ôl chwarae yn yr ardd, roedden nhw wedi blino. Felly gwylion nhw ffilm ar y soffa.

5. After playing in the garden, they were tired. So they watched a film on the sofa.

6. Pan ddaeth Gwil y ffermwr i nôl Owi, doedd Owi ddim eisiau mynd adra. Doedd o ddim eisiau mynd o gwbwl.

6. When Gwil the farmer came to fetch Owi, Owi didn't want to go home. He didn't want to go at all.

7. “Na!,” gwaeddodd Owi’n bwdlyd. Roedd Gwil y ffermwr yn grac gydag Owi am weiddi fel yna.

7. “No!” Owi shouted sullenly. Gwil the farmer was angry with Owi for shouting like that.

5

8. Ond roedd Cyw a Bolgi’n teimlo trueni dros Owi. Roedd hi’n anodd gorfod mynd adra ar ôl diwrnod mor dda.

8. But Cyw and Bolgi felt sorry for Owi. It was hard to have to go home after such a good day.

9. “Dere Owi!” meddai Gwil. Ond roedd Owi wedi mynd i guddio y tu ôl i’r soffa. Roedd yn teimlo’n drist a doedd o ddim eisiau mynd.

9. “Come on, Owi!” said Gwil. But Owi had gone to hide behind the sofa. He felt sad and didn't want to go.

10. Aeth Bolgi ato i godi ei galon ac egluro: “Mae’n rhaid i ti fynd adra Owi er mwyn i mi gael amser i gynllunio ar gyfer y tro nesaf byddi di’n dod i chwarae!”

10. Bolgi went to him to cheer him up and explained: "You have to go, Owi, so that I have time to plan for the next time you come to play!"

11. Roedd hynny’n gwneud iddo deimlo’n well. “Gawn ni adeiladu den y tro nesaf?” gofynnodd. “Wrth gwrs” meddai Bolgi, ac aeth Owi adra’n hapus gan edrych ymlaen at ddod i chwarae eto.

11. That made him feel better. "Shall we build a den next time?" he asked. "Of course" said Bolgi, and Owi went home happily looking forward to coming to play again.

12. Tynnwch lun o beth ydych chi’n hoff i wneud pan ydych chi’n mynd draw at ffrind i chwarae.

12. Draw a picture of what you like to do when you go over to a friend's house to play.

7

Torri a gludo

Cut and paste

Wyt ti'n gallu rhoi nifer cywir y gwenyn yn y nyth gwenyn?

Can you put the correct number of bees in the beehive?

8

Didoli

Sorting

Mae’r Cywion Bach wrth eu bodd yn dysgu am fyd natur. Wyt ti’n gallu helpu’r wenynen i adnabod y blodau er mwyn iddi allu casglu neithdar a phaill i wneud mêl?

The little chicks love learning about the natural world. Can you help the bee identify the flowers so that she can collect the nectar and pollen for making honey?

9

Torra'r blodau yn unig a'u gludo ar y nyth gwenyn.

Cut out the flowers only and stick them on the beehive.

10

Lliwio

Colouring

Wyt ti’n gallu lliwio llun Cyw ar y traeth?

Can you colour in a picture of Cyw on the beach?

11

Wyt ti'n gallu helpu Cyw i liwio rhain yn felyn?

Can you help Cyw to colour these in yellow?

Lliwio

Colouring

Melyn

Yellow

11a

haul

sun

hwyaden

a duck

11

seren

a star

caws

cheese

cenhinen Bedr

daffodil

Beth am fynd ar helfa i chwilio am fwy o bethau melyn?

Why not go on a hunt to find more yellow things?

12

Iaith

Language

Cer ati i liwio pob 'm' yn felyn.

Colour each 'm' in yellow.

melyn

yellow

13

Rho sticer yma

Place a sticker here

Beth arall sy'n dechrau gyda'r llythyren 'm'?

What else starts with the letter 'm'?

Ffurfio

Formation

12a

Wyt ti'n gallu ffurfio pob hecsagon i greu nyth gwenyn?

Can you form all the hexagons to create a bees nest?

13

Mae Bolgi wrth ei fodd yn bwyta mêl.

Bolgi loves to eat honey.

14

Rhif

Numbers

Beth am fynd am dro i gasglu pennau hadau dant y llew?

Why not go for a walk to collect dandelion seeds?

Dyfala sawl gwaith bydd angen i ti chwythu er mwyn chwythu'r hadau i gyd i ffwrdd. Oeddet ti'n gywir?

Guess how many times you will need to blow in order to blow all the seeds away. Were you correct?

Gwneud jar golau.

Make a light jar.

15

Mae’n bwysig ein bod ni’n ailddefnyddio pethau. Wyt ti’n gallu addurno pot jam gwag a’i newid i fod yn lamp?

It is important that we reuse things. Can you decorate an empty jam pot and turn it into a lamp?

Gluda ddarnau o bapur tusw ar y jar.

Glue pieces of tissue paper onto the jar.

Ar ôl iddo sychu, addurna'r jar gyda phen ffelt du.

After it has dried, decorate the jar with a black felt tip pen.

Gosoda olau batri yn y jar.

Place a battery light in the jar.

16

Cyfri

Counting

Cyfra a lliwia'r lluniau.

Count and colour the pictures.

15

Pysgodyn

A fish

Hufen iâ

Ice cream

16

Pêl

A ball

Cranc

A crab

17

Iaith

Language

17a

Awstralia

Australia

17

Ble mae Awstralia?

Where is Australia?

17c

Mae Cyw yn dysgu am yr anifeiliaid sy'n byw yn Awstralia.

Cyw learns about the animals that live in Australia.

17

Mae cangarŵ yn cario ei fabi mewn poced ar y tu blaen.

A kangaroo carries its baby in a pocket in the front.

17a

Mae’r cangarŵ yn gallu neidio yn dda iawn.

The kangaroo is very good at jumping.

17b

Wyt ti'n gallu neidio fel cangarŵ?

Can you jump like a kangaroo?

17

cangarŵ

kangaroo

18

Iaith

Language

Diwrnod Gwen

Gwen's day

G’day! Gwen ydw i.Dw i’n chwech oed a dw i’n byw yn Awstralia mewn tref o’r enw Ballina ar lan y môr. Dw i wrth fy modd yn mynd i’r ysgol a dw i ym mlwyddyn 1.

G'day! I'm Gwen. I'm six years old and I live in Australia in a town called Ballina by the sea. I love going to school and I'm in year 1.

Dw i’n byw gyda Mam,Dad a fy chwaer fawr, Anni-Mai. Dyma fi a fy chwaer. Dw i’n deffro tua 6 o’r gloch y bore ac yn bwyta brecwast tua 7 o’r gloch. Dw i'n bwyta grawnfwyd neu dost, ond weithau dw i’n cael croissant.

I live with Mum, Dad and my big sister, Anni-Mai. This is me and my sister. I wake up around 6 o'clock in the morning and eat breakfast around 7 o'clock. I eat cereal or toast, but sometimes I have a croissant.

Mae’r ysgol yn gorffen am 3.15pm a dw i’n hoffi gwneud llawer o bethau ar ôl ysgol. Dw i wrth fy modd yn dawnsio, yn enwedig hip hop.

School finishes at 3.15pm and I like to do a lot of things after school. I love dancing, especially hip hop.

19

Dw i’n hoffi mynd i lawr ar lan y môr wedyn i ymlacio drwy nofio neu bysgota efo Dad.

I like to go down to the seaside afterwards to relax by swimming or fishing with Dad.

Dw i’n cael swper am 5 o’r gloch ac yn mynd i’r gwely am 6 wedi blino’n lân! Dw i’n hoffi darllen llyfrau Cyw efo Mam a rhai o fy hoff ffrindiau Cyw.

I have dinner at 5 o'clock and go to bed at 6, exhausted! I like to read Cyw books with Mum and some of my favourite Cyw friends.

Nos da!

Good night!

20

Creu

Create

Wyt ti'n gallu creu bwmerang? Mae ffrindiau Cyw wedi creu rhai yn barod.

Can you create a boomerang? Cyw's friends have already created some.

Bwmerang

Boomerang

Darn o bren gallwch chi ei daflu yw bwmerang. Mae e yr un siâp â tho bach. Roedd pobl Awstralia yn ei gerfio a’i baentio, ac yn ei ddefnyddio i hela.

A boomerang is a piece of wood you can throw. It is the same shape as a 'to bach' (circumflex). The Australian people carved and painted it, and used it to hunt.

21

Tynnu llun

Draw a picture

Beth am gopïo Llew a gwneud llun o goala?

Why not copy Llew and draw a picture of a koala bear?

22

Cer ati i greu haul gan ddefnyddio print dy ddwylo.

Try creating a sun using the print of your hands.

23

Creu

Create

Beth am helpu Cati i greu daliwr hunllefau?

Why not help Cati create a nightmare catcher?

Rho sticer yma.

Place a sticker here.

Bydd angen brigau; cortyn; gleiniau/cregyn; glud.

You will need twigs; a cord; beads/shells; glue

24

Sticeri

Stickers

Defnyddia dy sticeri ar y dudalen hon.

Use your stickers on this page.

26

Dot i ddot

Dot to dot

Una'r dotiau i weld pa un o ffrindiau Cyw sy'n cuddio yma.

Connect the dots to see which of Cyw's friends is hiding here.

Rho sticer yma.

Place a sticker here.

27

Edrycha

Look

Beth sy'n wahanol rhwng y ddau lun?

How are the two pictures different?

Rho sticer yma.

Place a sticker here.

28

Lliwia

Colouring

Oes tedi gyda ti? Lliwia'r tedi yma yn dy hoff liwiau.

Do you have a teddy bear? Colour this teddy in your favourite colours.

Ysgrifenna enw dy dedi di yma.

Write your teddy's name here.

29

Sylwi

Noticing

Mae Plwmp wrth ei fodd yn chwarae gyda'i deganau. Pa ddau dedi sydd yr un peth?

Plwmp loves playing with his toys. Which two teddies are the same?

30

Marcio

Marking

Wyt ti'n gallu arwain y gwenyn i'r blodyn cywir?

Can you guide the bees to the right flower?

Rho sticer yma.

Place a sticker here.

31

Torri a gludo

Cut and paste

Wyt ti'n gallu torri a gosod y lluniau yn y drefn gywir i ddangos blodyn yr haul yn tyfu?

Can you cut and place the pictures in the correct order to show the sunflower growing?

32

Torri a gludo

Cut and paste

33

Wyt ti'n gallu helpu Pwdryn a Melys trwy dorri'r lluniau a'u rhoi nhw ar y dant cywir?

Can you help Pwdryn and Melys by cutting the pictures and putting them on the right tooth?

34

Creu

Create

Wyt ti'n gallu helpu Elin i greu creadur?

Can you help Elin make a creature?

Mae'r creaduriaid 3D yma'n edrych yn ddoniol.

These 3D creatures look funny.

Bydda mor greadigol â phosib!

Be as creative as possible!

Rho enw i dy greadur di.

Give your creature a name.

35

Pos

Puzzle

Wyt ti'n gallu helpu Triog i gyrraedd yr hufen iâ?

Can you help Triog reach the ice cream?

Y fan fwyd

The food van

Rho sticer yma

Place a sticker here.

36

Stori

A story

Cacen fwd gan Anni Llyn

Mud cake by Anni Llyn

padell

bowl

blodau

flowers

pluen

feather

ty bach twt

playhouse

dail

leaves

brigyn

twig

glawio

raining

siocled

chocolate

cerrig mân

pebbles

porffor

purple

cacen fwd

mud cake

mesen

acorn

lafant

lavender

Roedd LLEW a BOLGI allan yn chwarae yn yr ardd. Roedd hi wedi bod yn GLAWIO ac felly roedd yna lawer o fwd. “Beth am greu CACEN FWD?” holodd LLEW. “Syniad da!” meddai CYW. Aethon nhw i nôl hen BADELL o’r TY BACH TWT a’i llenwi gyda phridd a dŵr a’u cymysgu nes oedd yn edrych fel SIOCLED. “Mae angen rhywbeth arall!” meddai BOLGI. Felly, aeth CYW i waelod yr ardd i gasglu pethau.

LLEW and BOLGI were out playing in the garden. It had been RAINING so there was a lot of mud. "Why not create a MUD CAKE?" asked LLEW. "Good idea!" said CYW. They went to get an old BOWL from the PLAYHOUSE and filled it with soil and water and mixed them until it looked like CHOCOLATE. "We need something else!" said BOLGI. So, CYW went to the bottom of the garden to collect things.

37

Casglodd FLODAU a DAIL. Rhoddodd LLEW nhw yn y BADELL. “Beth arall allwn ni gael?” Aeth CYW i nôl CERRIG MÂN, yna aeth i nôl MESEN. Daeth o hyd i BLUEN a chasglodd fwy o FLODAU. Rhoddodd y cyfan yn y BADELL gyda’r mwd. Aeth LLEW i nôl BRIGYN cryf i gymysgu’r cyfan. Ar ôl ychydig o amser roedd y gymysgfa wedi troi yn un stwnsh mwdlyd ac roedd y BADELL yn ddrewllyd iawn, iawn. Aeth CYW i chwilio am blanhigyn arbennig gyda blodau bach PORFFOR arno. Daeth o hyd iddo, LAFANT oedd enw’r planhigyn ac roedd arogl hyfryd arno. Taflodd y LAFANT i’r BADELL hefyd. Roedd y GACEN FWD yn argoli’n hyfryd wedyn. Mor hyfryd nes bu bron i LLEW ei fwyta. Ond tarodd CYW y badell o’i law cyn iddo’i rhoi yn agos at ei geg. Disgynnodd y BADELL ar y llawr a ffrwydrodd y gacen i bob man. Roedd LLEW a CYW yn rowlio chwerthin!

She collected FLOWERS and LEAVES. LLEW put them in the BOWL. "What else can we have?" CYW went to get PEBBLES, then went to get an ACORN. She found a FEATHER and collected more FLOWERS. She put it all in the BOWL with the mud. LLEW went to get a strong TWIG to mix it all. After a while, the mixture had turned into a muddy mush and the BOWL was very, very smelly. CYW went in search of a special plant with small PURPLE flowers on it. She found it. The plant was called LAVENDER and it had a wonderful smell. She also threw the LAVENDER into the BOWL. The MUD CAKE smelled lovely afterwards. It was so lovely that LLEW almost ate it. But CYW knocked the bowl out of his hand before he put it close to his mouth. The BOWL fell on the floor and the cake exploded everywhere. LLEW and CYW were rolling with laughter!

38

Creu

Creating

Wyt ti'n gallu helpu Plwmp a Deryn i greu llun gan ddefnyddio balwnau a phaent?

Can you help Plwmp and Deryn create a picture using balloons and paint?

Beth yw dy hoff liw di?

What is your favourite colour?

39

Torri a gludo

Cut and paste

Wyt ti'n galu torri'r hufen iâ a'u gosod ar ben y côn cywir?

Can you cut out the ice cream and place them on top of the correct cone?

gwyrdd; pinc; melyn; coch

green; pink; yellow; red

Rho sticer yma

Place a sticker here.

Beth yw dy hoff flas hufen iâ di?

What is your favourite ice cream flavour?

40

Creu

Creating

Cer o amgylch siâp dy law gyda phensil. Defnyddia ffon gotwm a phaent i greu patrwm o smotiau o wmgylch llun dy law.

Trace around the shape of your hand with a pencil. Use a cotton swab and paint to create a pattern of dots around the picture of your hand.

41

Hwiangerdd

A nursery rhyme

Dilyna'r dotiau i greu'r siapiau.

Follow the dots to create the shapes.

Tu ôl i'r dorth mae'r blawd, Tu ôl i'r blawd mae'r felin, Tu ôl i'r felin, draw ar y bryn, Mae cae o wenith melyn.

Behind the loaf is the flour, Behind the flour is the mill, Behind the mill, over on the hill, There is a field of yellow wheat.

42

Coginio

Cooking

Pitsa blasus Plwmp

Plwmp's delicious pizza

Bydd angen: wrap tortilla; pot siocled; ffrwythau o dy ddewis di.

You will need: a tortilla wrap; a pot of chocolate; fruit of your choice.

44

Yr Oriel

The Gallery

Diolch i chi i gyd am anfon eich lluniau aton ni. Dyn ni wedi mwynhau gweld pob un ohonyn nhw.

Thank you all for sending us your photos. We have enjoyed seeing each one.

Enillydd y gwanwyn. Mae dy wobr ar ei ffordd atat.

Spring winner. Your prize is on its way to you.

45

Beth am dynnu llun o beth sy'n dy wneud di'n hapus?

Why not take a picture of what makes you happy?

46

Torri

Cutting out

Wyt ti'n gallu torri ar hyd y llinell i greu haul?

Can you cut along the line to create a sun?

haul

sun

47

Adnoddau Addysgol Hwyliog Cyw

Cyw's Fun Educational Resources

Cardiau Lliw Llew

Cardiau Lliw Llew (Llew's Colouring Cards)

Dewch i ymuno â Llew yn ei fyd llawn lliw, i ddysgu sut i gymysgu lliwiau ac i greu rhai newydd sbon. Yn y pecyn ceir 12 cerdyn i helpu'ch plentyn ddod i adnabod lliwiau a 5 cerdyn cymysgu lliwiau.

Come and join Llew in his colourful world, to learn how to mix colours and create brand new ones. In the pack there are 12 cards to help your child get to know colours and 5 colour mixing cards.

Dominos Cyw a'i ffrindiau

Dominos Cyw a'i ffrindiau (Cyw and friends' Dominoes game)

Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau!

Come and play dominoes with Cyw and friends!

Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er mwyn eu gwneud yn addas i blant ifainc.

The set is printed on large cards to make them suitable for young children.

Dysgu gyda Cyw

Dysgu gyda Cyw (Learning with Cyw)

Llond gwlad o weithgareddau yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau ar gyfer yr ysgol a'r cartref.

Lots of activities in the company of Cyw and friends for school and home use.

Ceir yma 40 o daflenni lliwgar y gellir eu llungopio, a chyfle i ymarfer amrywiaeth o sgiliau wrth gwblhau'r gweithgareddau.

There are 40 colourful leaflets that can be photocopied, and an opportunity to practise a variety of skills when completing the activities.

Llyfr Sychu'n Sych

Llyfr Sychu'n Sych (Wipeable book)

Pecyn llawn 20 o ddarluniau lliwgar y gellir eu sychu'n lan a'u defnyddio dro ar ôl tro.

Full pack of 20 colourful illustrations that can be wiped clean and used time after time.

Gafaelwch mewn pin ysgrifennu a dewch i gwblhau'r gweithgareddau hwyliog yng nghwmni Cyw a'i chyfeillion.

Grab a pen and complete the fun activities in the company of Cyw and friends.

a llawer mwy @ https://pth.cymru/siop-cyw

and lots more @ https://pth.cymru/siop-cyw

48

Hwiangerdd

A nursery rhyme

Mr Hapus

Mr Happy

Mr Hapus ydw i

I'm Mr Happy

Mr Trist ydw i

I'm Mr Sad

bw-hw

boo-hoo

Mr Tawel ydw i

I'm Mr. Quiet

Mr Swnllyd ydw i

I'm Mr Noisy

hwrê

hooray

Beth am fynd i'r wefan i glywed recordiad o'r hwiangerdd, a chanu'r gân?

Why not go to the website to hear a recording of the nursery rhyme, and sing the song?